Welsh Government

Adnoddau cynnwys y cyhoedd

A oes yna adnodd rydych chi’n meddwl fyddai’n ddefnyddiol i aelodau’r cyhoedd nad yw ar gael ar y dudalen hon? Yna cysylltwch â ni!

Dogfennau defnyddiol
Cardiau cyswllt
Gair i gall
Adnoddau allanol
Sefydliadau defnyddiol
Adnoddau ar gyfer ymchwilwyr


Dogfennau defnyddiol

Treuliau

Deall y jargon

  • Deall y jargon – Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
    Ydych chi’n ansicr ynglŷn â beth ydy’r gwahaniaeth rhwng BRC neu BRU? Yn cymysgu rhwng HRA, HRC, HSE a HTA? Yna bydd ein canllaw deall y jargon yn helpu i ateb y cwestiynau hyn a mwy.

  • INVOLVE Jargon Buster
    Mae’r 'Jargon Buster' yn darparu geirfa o fyrfoddau ac ymadroddion ymchwil Saesneg sy’n cael eu defnyddio’n aml.

  • Geirfa NICE
    Mae gyrfa NICE yn darparu diffiniadau byr ac esboniadau o ymadroddion ymchwil.

Arall

  • Adroddiad Cefnogaeth gan Gymheiriaid

  • Llawlyfr y camau nesaf - aelodau o’r cyhoedd ac ymchwilwyr yn cydweithio

  • Grŵp Dysgu ar y Cyd ar Gynnwys a Grŵp Cynnwys Ymchwil Elusennau
    Mae tîm Cynnwys ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n tanysgrifio, fel sylwedyddion, i’r Grŵp Dysgu ar y Cyd ar Gynnwys. Nod y Grŵp yw annog dysgu ar y cyd ynglŷn â chynnwys defnyddwyr gwasanaeth a/neu ofalwyr rhwng mudiadau’r sector gwirfoddol cenedlaethol ledled y DU. Mae’r Grŵp wedi datblygu adnoddau ac mae rhai o’r rhain ar gael yn agored i ymchwilwyr neu aelodau’r cyhoedd i’w hadolygu ar hafan dudalen y wefan dan newyddion a dogfennau sy’n cael sylw.


Yn ôl i’r brig


Cardiau cyswllt

Mae cardiau cyswllt wedi’u datblygu ar gyfer aelodau’r cyhoedd er mwyn iddyn nhw rannu eu manylion â’i gilydd, a mynd ati i roi ac i hybu cefnogaeth gan gymheiriaid heb unrhyw bwysau. Fe fydd y rheini sydd newydd gofrestru â’r gymuned cynnwys y cyhoedd yn derbyn set yn eu pecyn croeso. Os hoffech chi gael pecyn o gardiau cyswllt, anfonwch e-bost atom ni yn research-involvement@wales.nhs.uk


Yn ôl i’r brig


Gair i Gall


Yn ôl i’r brig


Adnoddau allanol

‘NIHR Mental Health Research Network guide to finding and reading a research paper’ Mae’r canllaw hwn yn helpu defnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl a’u gofalwyr i gael mynediad i ymchwil i iechyd meddwl (gwefan allanol)


Yn ôl i’r brig


Sefydliadau defnyddiol

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 

INVOLVE

People in Research

Learn Zone Macmillan

HealthTalk


Yn ôl i’r brig


Adnoddau ar gyfer Ymchwilwyr

  • Cwrs Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd ar-lein, wedi’i gydgynhyrchu gan NIHR 
    Cwrs rhyngweithiol ar-lein wedi’i gydgynhyrchu gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR) ar gyfer ymchwilwyr, arianwyr ac adolygwyr cyhoeddus i helpu i rannu gwybodaeth am gynnwys cleifion a’r cyhoedd. Mae’n darparu canllawiau ar amrywiaeth o rolau, ac mae’n bosibl y bydd ymchwilwyr hefyd yn cael yr adnodd hwn yn ddefnyddiol wrth ysgrifennu ceisiadau am gyllid ymchwil.

  • Bod yn gynhwysol wrth gynnwys y cyhoedd mewn ymchwil iechyd 
    Beth yw rhai o’r pethau i feddwl amdanyn nhw i ddod yn fwy cynhwysol wrth gynnwys y cyhoedd mewn ymchwil iechyd? Sut ydyn ni’n datblygu cymunedau ymchwil cynhwysol? Mae’r ddogfen hon yn cynnwys cyfres ddefnyddiol o awgrymiadau ar gyfer ymchwilwyr, ac i’r rheini sy’n gyfrifol am gefnogi cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil iechyd (ymarferwyr).

  • Y tri chategori cynnwys  
    Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi datblygu tri chategori ar gyfer cyfleoedd cynnwys y cyhoedd.

  • Taflen cynnwys y cyhoedd 
    Bwriadhon yw cyflwyno’rsyniad o chwaraerhanmewnymchwiliechyd a gofalcymdeithasol

  • Arfer gorau wrth gynnwys y cyhoedd – yr Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) 
    Mae’r canllaw hwn yn manylu ar sut y dylech chi gyflwyno’ch gwybodaeth am gynnwys y cyhoedd o fewn y System Ymgeisio Integredig ar gyfer Ymchwil (IRAS), mewn ffordd sydd fwyaf defnyddiol i Bwyllgorau Moeseg Ymchwil (RECs).

  • Pecyn Cymorth EUPATI 
    Mae’r Pecyn Cymorth yn cynnwys erthyglau, cyflwyniadau, fideos a ffeithlenni ynglŷn â phob agwedd ar broses datblygu meddyginiaeth, gan gynnwys sut i gynnwys cleifion yn y broses hon (gwefan allanol)

  • Sut i ysgrifennumewnSaesnegclir

  • Sut i ysgrifennu mewn Cymraeg clir 
    Gwasanaeth cymorth Prifysgol Bangor ar yr iaith Gymraeg i ymchwilwyr

Yn ôl i’r brig