Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n ceisio mewnbwn i’n dyheadau ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd a chynnwys y cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Manylir ar y dyheadau hyn yn y ddogfen – Darganfod eich rôl mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
Er mwyn gwneud hyn, rydyn ni’n gwneud dau beth:
Mae’r arolwg i gael adborth i’w gael yma: Arolwg Darganfod eich rôl mewn ymchwil iechyd a gofal
Bydd yr arolwg ar agor tan 27 Tachwedd 2019.
Byddwn ni’n adolygu ymatebion a gynigir trwy’r arolwg yn barhaus gydol y cyfnod ymgynghori, a byddwn ni’n bwydo syniadau ac awgrymiadau o’r ymatebion i’r arolwg i’r drafodaeth yn nigwyddiadau’r gymuned ymarfer. Felly rydyn ni’n annog pobl i ymateb i’r arolwg cyn gynted â phosibl, ac rydyn ni’n hapus i dderbyn mwy nag un ymateb oddi wrth unigolion/grwpiau gydol y cyfnod ymgynghori.
Digwyddiadau’r Gymuned Ymarfer
Bydd cydweithwyr o Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n cyfarfod â grwpiau ac unigolion i drafod y dyheadau yn ystod y cyfnod ymgynghori, a byddan nhw hefyd yn gwesteio cyfres o ddigwyddiadau agored y ‘Gymuned Ymarfer’. Y digwyddiadau hyn fydd y prif fecanwaith i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ymgysylltu’n gydgynhyrchiol â’r gymuned ymchwil a’r cyhoedd i siapio cynlluniau’r dyfodol o amgylch Cynnwys ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd mewn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Bydd pob digwyddiad y Gymuned Ymarfer yn canolbwyntio ar ddau o’r pedwar dyhead o’r ddogfen ‘Darganfod Eich Rôl’, cyn crynhoi trafodaethau ac edrych ar y camau nesaf ymarferol yn y gweithdy terfynol. Cynhelir y rhain ar y dyddiadau a ganlyn yng Ngwesty Jurys Inn yng Nghanol Dinas Caerdydd:
Mae agenda a deunydd darllen pellach ar gael ochr yn ochr â’r broses gofrestru ar gyfer y digwyddiadau.
Er y bydd pob gweithdy wedi’i gynllunio i fod yn annibynnol ar y lleill, anogir cyfranogwyr i ymgysylltu â’r broses gyfan lle bo’n bosibl, gan gynnwys yr arolwg ar-lein.
Os hoffech chi gysylltu ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ynglŷn â’r ymgynghoriad hwn, neu gofrestru’ch diddordeb mewn derbyn rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau’r gymuned ymarfer, yna anfonwch e-bost i DiscoverYourRole@gov.wales
Ar ôl yr ymgynghoriad a’r digwyddiadau, byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth a gesglir i ddarparu sail ar gyfer gwaith datblygu cynlluniau strategaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer 2020 ymlaen.