Welsh Government
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru - Diwrnod Cefnogi a Chyflenwi

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru - Diwrnod Cefnogi a Chyflenwi

14 Mawrth 2019   |   08:45-16:30   |   Jurys Inn, Caerdydd   |   £0.00

Thema: Cymru’n Un: Yn cydweithio mewn ymchwil

#TîmYmchwil19

Lawrlwytho’r rhaglen


Siaradwyr

Un Gymru, sawl llais - Sicrhau bod llais ymchwil i’w glywed

Dr Chris Stock, Pennaeth cyfathrebu ac ymgysylltu

Ymchwil a’r effaith ar y claf

Trosolwg bras gan glaf (fy hun) sydd â chlefydau tymor hir sy’n gwaethygu bob yn dipyn, a sut y gall ymchwil gael effaith

Angelo Micciche

Mae Angelo yn glaf â nifer o gyflyrau cronig sy’n gwaethygu o dipyn i beth, ac mae wedi cymryd rhan mewn ymchwil o sawl safbwynt. Cyn hyn, bu’n gweithio yn y sector preifat am lawer o flynyddoedd, ac mae wedi gweithio yn y GIG am y deng mlynedd diwethaf yn ogystal â bod â phrofiad blaenorol fel Llywodraethwr Arweiniol am lawer o flynyddoedd mewn Ymddiriedolaeth Sefydledig fawr.

Sicrhau Cymaint o Gyfleoedd i Gydsynio â Phosibl 

Mae cael cydsyniad deallus yn ganolog i lwyddiant llawer o fathau o ymchwil. Mae yna nifer o ffyrdd y gall ymchwilwyr hwyluso hyn, gan gynnwys edrych ar amrywiaeth o fodelau cydsynio a sicrhau bod ganddyn nhw broses sy’n gynhwysol ond eto’n cydymffurfio â chanllawiau arfer clinigol da.

Jade Cole, Nyrs arbenigol ac arweinydd tîm ar gyfer ymchwil gofal critigol

Fe gwblhaodd Jade ei haddysg nyrsio yng Nghaerdydd, gan raddio yn 2003. Fe ymunodd â Chyfarwyddiaeth Gofal Critigol Oedolion Caerdydd yn 2004 a chwblhaodd ei haddysg ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe yn 2008.

Fe ymunodd â’r tîm Ymchwil Gofal Critigol fel Nyrs Glinigol Arbenigol yn 2011, a chafodd ei phenodi i swydd Arweinydd Tîm yn 2017 a Dirprwy Arweinydd Y&D ar gyfer Ymchwil Gofal Critigol yn 2018.

Mae gan ei thîm fodel staffio 24/7 unigryw ac maen nhw wedi recriwtio mwy na 1500 o gleifion i dreialon yn ystod y 6 mlynedd diwethaf. Mae’r uned wedi’i chydnabod fel un o’r unedau sy’n perfformio orau yn rhyngwladol, gan gyhoeddi papurau mewn cyfnodolion sy’n gwneud argraff fawr ac sy’n arwain canllawiau cenedlaethol.

Mae'r meysydd sydd o ddiddordeb i Jade yn cynnwys bioffilmiau yn y geg a’u heffeithiau ar ddatblygiad niwmonia, a’r defnydd o fodelau cydsynio gohiriedig mewn ymchwil.

Mae Jade wrthi ar hyn o bryd yn gweithio ledled Cymru i hybu ac addysgu ymchwilwyr ynglŷn â defnydd diogel ac ymarferol o fodelau cydsynio gohiriedig.

Arweinyddiaeth ar yr Iâ

Cyfeiriwyd sawl  tro at Syr Ernest Shackleton fel arweinydd heb ei ail, ond ni arweiniodd erioed dîm yn cynnwys mwy na 27 o bobl, methodd â chyflawni bron pob un o’r targedau a osododd a, than yn ddiweddar, ychydig iawn o sôn fu amdano ers ei farwolaeth yn 1922. Yn sownd ym môr yr Antarctig rhewllyd am bron i ddwy flynedd, dioddefodd Shackleton a’i dîm o fforwyr pegynol dymereddau eithafol, rhew peryglus, cyflenwadau bwyd yn prinhau a’r profiad o fod wedi’u hynysu’n llwyr. Serch y rhwystrau anorchfygol hyn i bob golwg, arhosodd y grŵp yn unedig, yn gytûn a, thrwy drugaredd, yn fyw – ffaith sy’n tystio nid yn unig i lwc ond i arweinyddiaeth fedrus heb ei thebyg.

Fe fyddwch chi’n dysgu o’r hanes gwefreiddiol ac ysbrydoledig hwn am oroesi yn groes i bob disgwyl wrth ichi ymlafnio i arwain a chyflenwi gwasanaethau’n effeithiol yng nghanol amgylchedd dan bwysau uchel sy’n symud yn gyflym ac yn newid byth a hefyd.

Ian Govier, Uwch-reolwr arweinyddiaeth a datblygu sefydliadol

Mae Ian Govier yn gweithio rhan-amser i Academi Wales ac mae’n hwylusydd ac yn hyfforddwr profiadol gyda llwyddiant blaenorol yn gweithio gydag unigolion a thimau aml-broffesiwn i greu a meithrin perthnasoedd sy’n arwain at ganlyniadau effeithiol a newid llawn pwrpas. Cefndir proffesiynol mewn nyrsio, addysg a datblygu arweinyddiaeth sydd gan Ian, ac am y deng mlynedd ar hugain diwethaf mae wedi gweithio mewn amrywiaeth eang o leoliadau sefydliadol.

Mae gan Ian dros 15 mlynedd o brofiad o hyfforddi a mentora o fewn a thu hwnt i’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.


Gweithdai

  • Cefnogi a Chyflenwi; mae’ch angen chi arnon ni! Beth am chwarae’ch rhan mewn helpu i roi darlun amserol o ymchwil yng Nghymru trwy ddefnyddio Portffolio Lleol Cymru
    Reshma Raycoba, Martin Harris a Toby Hiscott

    Fe fydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg i’r mynychwyr o’r System Rheoli Portffolios Lleol (LPMS). Nod arall yw dwyn sylw at ba mor bwysig yw defnyddio’r System hon i gasglu data pwysig yn ymwneud ag ymchwil, a fydd yn ein helpu ni i roi lle amlwg i’r ymchwil sydd ar y gweill yng Nghymru. Hefyd, gall data o’r fath helpu i siapio penderfyniadau hollbwysig ynglŷn â blaenoriaethau ar gyfer ymchwil yng Nghymru i fod o fudd i gleifion, defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd.

    Mae’n rhaid i holl sefydliadau’r GIG fod â chyswllt data ar gyfer pob astudiaeth ac fe fydd y sesiwn hon hefyd yn darparu cysylltiadau data cyfredol a rhai posibl gydag arddangosiad o’r system.

    Fe fyddwn ni hefyd yn dangos ychydig o’r wybodaeth busnes rydyn ni wedi gallu ei chreu hyd yma ynglŷn ag ymchwil yng Nghymru, gan ddwyn sylw at yr effaith y mae hyn wedi’i chael.
  • Rhoi’r darnau at ei gilydd: Costiadau a Chymeradwyaeth 
    Matthew Harris, Helen Hodgson a Mike Holloway
    Sesiwn ryngweithiol yn disgrifio’r camau allweddol i bennu costau astudiaethau ymchwil yn llwyddiannus a chael sêl bendith ar yr adeg iawn. Fe fydd y gweithdy’n defnyddio astudiaethau achos bywyd go iawn i helpu i sicrhau gwell dealltwriaeth o’r prosesau pennu costau a chael cymeradwyaeth ar gyfer astudiaethau ymchwil masnachol ac anfasnachol.
  • Pam a sut i gynnwys y cyhoedd yn eich ymchwil
    Barbara Moore ac Emma Langley

    Mae cynnwys y cyhoedd yn ffordd ragweithiol o sicrhau bod eich ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn berthnasol i’r bobl y gobeithir gwella’u bywydau. Mae ymgysylltu â’r cyhoedd yn sicrhau bod yna drafodaeth â’r cyhoedd ynglŷn â’ch ymchwil.

    Mae’r realiti o gynnwys y cyhoedd trwy gydol y cylch ymchwil angen ystyriaeth ac adnoddau. Fe fyddwn ni’n rhoi enghreifftiau go iawn o sut y mae cynnwys y cyhoedd yn gallu llunio a dylanwadu ar ymchwil yn y cyfnodau cynnar. Fe fydd yr enghreifftiau hefyd yn dangos effaith cynnwys pobl ar eu bywydau.  Yna fe fyddwn ni’n gofyn i’r mynychwyr ystyried beth y gallai cynnwys y cyhoedd ei olygu i ymchwil ddamcaniaethol neu wirioneddol y maen nhw o bosibl yn ei hystyried yn eu maes gweithio nhw.

    Fe ddaw’r gweithdy i ben â gwybodaeth am y cymorth y mae’r tîm cynnwys y cyhoedd yn ei ddarparu sy’n sicrhau bod yr adnoddau sydd eu hangen i gynnwys y cyhoedd yn ystyrlon o fewn cyrraedd. Neilltuir amser ar gyfer cwestiynau.
  • Diffinio cyflenwi – cefnogi cynllunio’r gweithlu ymchwil yn ymarferol
    Jayne Jones
    Mae’n bosibl y bydd y gweithdy hwn o ddiddordeb i dimau sy’n ceisio ymdopi â gofynion cystadleuol portffolio ymchwil prysur. Mae’n edrych ar y defnydd ymarferol o offer asesu llwyth gwaith a chapasiti. Efallai fod gan asesu llwyth gwaith a chapasiti rôl mewn tywys timau, nid yn unig i gynllunio cymorth ar gyfer astudiaethau ymchwil, ond hefyd i wneud achos dros fwy o adnoddau neu rolau penodol. Mae’r sesiwn yn disgrifio sut y mae cydweithwyr yn y DU wedi defnyddio offer asesu llwyth gwaith a chapasiti i ddangos gwerth rolau ymchwil glinigol. Mae hefyd yn cynnwys trafodaeth ar ba mor ymarferol ydyn nhw i’w defnyddio a’u buddion; arddangosiad ymarferol ac ystyriaeth o sut y gall hyn ein helpu ni â chynllunio gweithlu a datblygu gweithlu yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
  • Pwy sy’n malio? Pam fod straeon yn bwysig i chi a’ch gwaith. 
    Chris Stock
    Straeon sy’n agor meddyliau a drysau i ymchwil, boed y gynulleidfa'n gleifion, yn gydweithwyr neu'n bobl sy'n gwneud penderfyniadau. Straeon am fywydau y mae triniaethau newydd wedi’u trawsnewid, am well gwasanaethau GIG, am yrfaoedd fel eich rhai chi.
  • Gweithdy dysgu a datblygu
    i’w gadarnhau


Ffotograffiaeth

Tybed oes angen ffotograff proffil proffesiynol newydd arnoch chi? Fe fydd gennym ni ffotograffydd proffesiynol ar gael yn ystod y cofrestru, yr egwyl lluniaeth a’r amser cinio ac fe fydd yn tynnu lluniau o wynebau pobl i’w defnyddio ar eich holl gyfryngau cymdeithasol ac fel lluniau proffil.

Dilynwch yr arwyddion i’r ffotograffydd proffil os hoffech chi gael eich llun wedi’i dynnu. (Fe fydd gofyn ichi lofnodi ffurflen gydsynio.)

Fe fydd yna ffotograffydd ar gyfer y digwyddiad hefyd a fydd yn tynnu lluniau yn ystod y dydd.


 

Y man cyfarfod:

Jurys Inn

1 Plas y Parc

Caerdydd

CF10 3UD

Teithio i Jurys Inn:

Mae Jurys Inn yn bum munud ar droed o orsaf reilffordd  Heol y Frenhines Caerdydd ac yn agos at draffordd yr M4.

Mae’r maes parcio rhataf ac agosaf at y lleoliad yng Nghanolfan Siopa Capitol, taith pum munud ar droed o Jurys Inn. Mae yna ddau faes parcio NCP hefyd gerllaw – y naill ar Blas Dumfries a’r llall ar Heol y Brodyr Llwydion.

Mae Jurys Inn Caerdydd hefyd yn ddwy funud ar droed o arhosfan bws y Brodyr Llwydion (Arhosfan GL).