Welsh Government
Arloesi yng Nghymru yn newid dyfodol ymchwil gofal iechyd

Arloesi yng Nghymru yn newid dyfodol ymchwil gofal iechyd

13 Gorffennaf 2018

Mae datblygiadau cyflymach fyth mewn technoleg wedi trawsnewid pob agwedd ar ein bywydau yn y 70 mlynedd ers i GIG ddod i fodolaeth ac yn enwedig yn y GIG ei hun.

Yma rydym yn edrych ar ymchwil ym maes technoleg iechyd yng Nghymru, o robotiaid sy’n canfod canser a chwtogi amserau llawdriniaeth i ddefnyddio’n cod genetig i deilwra gofal.

Mae’r gwaith hwn yn darparu offer newydd sy’n achub a gwella bywydau, ond efallai mai’r her dechnoleg fwyaf i GIG yn y 70 mlynedd nesaf yw derbyn rôl y dechnoleg newydd yn ein gofal.

Canfod canser yn awtomatig

Mae canser y colon yn hawdd ei drin os caiff ei adnabod yn gynnar – ond mae’r prawf yn ymledol ac yn drwm ar adnoddau, sy’n golygu bod rhai yn optio allan ac yn cyfyngu ar y niferoedd sy’n cael eu sgrinio.

Yn y prawf hwnnw mae ymgynghorydd yn yr ysbyty yn archwilio tu mewn i’r coluddyn gyda cholonosgop (camera ar bibell hyblyg) i weld tyfiannau canser posibl (‘polyps’) a chael gwared arnynt.

‘Nawr mae Dr Sunil Dolwani a’r tîm yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn arloesi gyda thechnoleg sgrinio sydd wedi ei hawtomeiddio’n rhannol er mwyn cyflymu a symleiddio pethau.

"Rydym yn wirioneddol gyffrous am y posibilrwydd o ddefnyddio colonosgop robotig gyda sgopiau tafladwy a deallusrwydd artiffisial wedi’i integreiddio er mwyn canfod polyps a chanser y coluddyn yn awtomatig drwy ddiagnosis gyda chymorth cyfrifiadur,” eglurodd Dr Dowlani a’i dîm, sydd wedi eu hariannu’n rhannol gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru a Chanolfan Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys (Canolfan PRIME)

Ychwanegodd, “Mae potensial i hyn chwyldroi ein gallu i ganfod canser y coluddyn yn gynnar mewn gofal sylfaenol a chanolradd a’n helpu gyda’r cyfyngiadau presennol o ran colonosgopi mewn gofal eilaidd.

Breichiau robotig yn yr ystafell lawdriniaeth

Gall llawdriniaeth drin ffitiau epileptig gwanychol, drwy ladd celloedd yn y parth epileptogenig sy’n ddwfn yn yr ymennydd. Gall y llawdriniaeth gymhleth a manwl hon gymryd hyd at bedair awr ond nawr mae’r fraich robotig wedi cwtogi hynny i lai nag awr.

“Mae’r ‘Renishaw Robot’ yn gam arwyddocaol ymlaen ar gyfer llawdriniaeth epilepsi yng Nghymru” eglurodd yr Athro William Gray, Cyfarwyddwr Uned Cyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN).

Mae’r defnydd o ‘stereoelectroencephalography’ (SEEG), neu nodi’r union fan yn yr ymennydd cyn cychwyn y llawdriniaeth gan osod electrodau yn yr ymennydd i fesur y gweithgaredd yn rheolaidd yn ystod y llawdriniaeth, wedi arwain ar lawdriniaethau pedair awr yn cael eu cwblhau mewn dim ond 55 munud.

Ychwanegodd yr Athro Gray, “Bydd hyn yn ein galluogi i archwilio a thrin hyd yn oed yr achosion mwyaf cymhleth er mwyn sicrhau bod ein cleifion yn cael gwared ar y ffitiau. Mewn cydweithrediad ag Uned BRAIN, bydd yn ein galluogi i gyflawni gwaith ymchwil blaenllaw ar fesur signalau yn yr ymennydd a chyflwyno therapïau yn uniongyrchol i’r ymennydd mewn perthynas ag ystod o glefydau niwrolegol.”

Arloesi ym maes meddyginiaeth fanwl gywir

Bydd meddyginiaeth fanwl gywir, wedi ei llywio gan dechnolegau ac sy’n rhoi gofal a thriniaethau wedi eu teilwra i bob un ohonom ar yr adeg gywir, yn trawsnewid gofal clinigol.

Mae sgrinio ein genomau yn gyflymach fyth ac yn rhatach yn allweddol i hyn – gan ddadgodio holl gyfarwyddiadau genetig ein corff ar gyfer ein gwneud a’n cynnal – i nodi nodweddion ein cod DNA sy’n dylanwadu ar ein hiechyd neu’n achosi cyflyrau.

Y rhai cyntaf a allai elwa o hyn yw’r rhai gyda chanser (sy’n cael ei achosi gan newidiadau i’n DNA) a’r rhai sy’n dioddef o glefydau sy’n effeithio dim ond arnynt hwy neu lond llaw o bobl ledled y byd. Mae’r ffaith bod y clefydau hynny’n brin yn golygu nad oes diagnosis na thriniaethau parod, a gallai sgrinio genomig roi sicrwydd iddynt a nodi triniaethau posibl am y tro cyntaf.

Dyma yw canolbwynt y Cynllun arloesol 100,000 o Genomau, sy’n anelu at sefydlu’r math hwn o ofal yn y GIG. Mae Cymru yn rhan allweddol o’r broses gyntaf yn y byd o ddatgodio 100,000 o genomau o 70,000 o bobl gyda chanser neu glefydau prin, a’u teuluoedd.

“Mae hyn yn cyd-fynd ag ethos y GIG” meddai’r Athro Julian Samspon o Barc Geneteg Cymru, sy’n arwain y Cynllun 100,000 o Genomau, “i helpu cleifion, heb ystyried eu statws na’u hamgylchiadau, i gael y gofal iechyd a’r gefnogaeth sydd ei angen arnynt ac i elwa o ddatblygiadau technolegol newydd megis dilyniannu genomau cyfan.”
Mewn mannau eraill mae’r un dechnoleg yn hyrwyddo gwell dealltwriaeth o glefydau megis canser ac Alzheimers, gyda darganfyddiadau a all drawsnewid gofal y claf.

Beth sy’n ein dal ni yn ôl?

Gyda holl fanteision posibl technoleg yn eglur, mae’n bosibl mai sut rydym yn teimlo am ei rôl yn ein gofal a’n cyrff fydd yr her fwyaf.

Mewn adroddiad diweddar gan Gyngor Biofoeseg Nuffield, datgelwyd prif bryderon y cyhoedd, am ddibynadwyedd a diogelwch, tryloywder data ac atebolrwydd mewn perthynas â phenderfyniadau clinigol awtomataidd, a cholli’r cysylltiad dynol.

Roedd y pryderon am ddeallusrwydd artiffisial yn canolbwyntio ar bosibiliadau o gamgymeriadau a hyd yn oed ragfarnau codwyr cyfrifiaduron wedi’u cuddio’n ddwfn yn nulliau canfod neu weithdrefnau’r meddalwedd canfod clefydau awtomataidd - gan arwain at effeithiau a fyddai’n newid bywydau pobl ac a allai gymryd blynyddoedd i’w holrhain i’w darddiad.

Yn yr un modd, mae ansicrwydd ynghylch pwy sy’n gyfrifol am gamgymeriadau pan fydd cyfrifiaduron yn gwneud neu’n dylanwadu ar benderfyniadau yn bryder, yn arbennig gyda ‘pheiriannau sy’n dysgu’ neu welliannau awtomataidd gan y cyfrifiadur, sy’n nodwedd allweddol o ddeallusrwydd artiffisial.

Ynghyd â lefelau isel o ymddiriedaeth mewn diogelwch a thryloywder data, mae’n amlwg bod llawer o bryder ynghylch diogelwch a dibynadwyedd gofal wedi ei awtomeiddio.

Mewn termau dynol syml, mae llawer yn holi a fyddai deallusrwydd artiffisial a robotiaid yn golygu llai o gysylltiad cadarnhaol dynol ar gyfer y rhai hynny sydd eisoes wedi eu hynysu oherwydd diffyg symudedd neu henaint, gan beryglu ymhellach eu lles a’u hiechyd meddwl.

Edrych i’r dyfodol

Mae’n amlwg y bydd angen i ni a’r GIG ddarganfod y ffordd orau o wneud yn fawr o dechnolegau newydd a rheoli’r risgiau a’r pryderon hyn – ond hefyd werthfawrogi y gallai’r manteision posibl fod yn enfawr yn ystod 70 mlynedd nesaf y GIG.

“Mae’n anodd rhagweld yn hollol sut y bydd y GIG yn edrych ac yn cael ei redeg ymhen 30 mlynedd” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. “Pan fyddwch yn meddwl am ddeallusrwydd artiffisial, yr hyn y gallwn ei wneud mewn meddyginiaeth enetig, mae llawer o gyfleoedd. Bydd yn sicr yn wahanol mewn sawl ffordd, ond yr hyn a fydd yr un fath, yw’r ffaith mai gwasanaeth cyhoeddus gyda gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus fydd hwn.”

“Er yr holl ddatblygiadau arwyddocaol, bydd angen pobl o hyd i ddarparu nifer o wasanaethau – ond yn gweithio mewn dulliau gwahanol ac ar draws gwahanol dimau.”