Welsh Government
@YmchwilCymru ar leoliad... Y bobl gudd sy’n gwneud i ymchwil arennol ddigwydd yng Nghymru

@YmchwilCymru ar leoliad... Y bobl gudd sy’n gwneud i ymchwil arennol ddigwydd yng Nghymru

9 Hydref 2019

Yn swatio ynghudd yng nghefn yr adeilad ar lawr cyntaf pencadlys Gwasanaeth Gwaed Cymru yn Llantrisant. Dyna lle y byddwch chi’n dod ar draws Labordy Trawsblannu ac Imiwnogeneteg Cymru – neu WTAIL, fel y mae’r rheini o amgylch yr adeilad yn ei alw.

Ond peidiwch â gadael i’r lleoliad cudd hwn roi’r argraff ichi mai rhyw bethau dibwys sy’n mynd rhagddyn nhw yma. Fel mae’n digwydd, y gwrthwyneb sy’n wir.

Mae rhywfaint o ymchwil arennol fwyaf arloesol Cymru’n digwydd yma, gyda chysylltiadau ag Uned Ymchwil Arennol Cymru, sef un o’r canolfannau y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n eu hariannu.

Mae’r gwyddonydd clinigol ac ymchwilydd, Amy De’Ath, yma i’n tywys o amgylch y labordy. Mae Amy yn mynd â ni trwy’r drysau, lle rydyn ni’n gweld meinciau labordy gwyn nodweddiadol ac amryw o ddyfeisiau profion.

“Yn y labordy yma, rydyn ni’n perfformio gwaith teipio HLA (antigen lewcosyt dynol) a sgrinio am wrthgyrff,” esboniodd Amy.

“Os ydych chi’n meddwl am grwpiau gwaed A, B ac O. Maen nhw ar eich celloedd coch, ond mae HLA ar fwy neu lai pob cell arall yn eich corff, ac mae’n caniatáu i’ch corff wahaniaethu rhyngddo’i hunan a’i ‘an-hunan’.

“Felly, er enghraifft, os ydych chi wedi cael haint bacterol neu haint feirol, dydy’ch celloedd gwaed gwyn ddim yn gallu gwirio pob cell yn eich corff yn sydyn. Mae’r HLA fel allwedd y mae’ch celloedd gwaed gwyn yn cysylltu ag ef, ac mae’n dweud ‘ie, fi ydych chi, fi ydych chi..’ ac yna pan mae’n dod ar draws bacteria mae’n dweud ‘na, nid fi ydych chi’ ac yna bydd eich corff yn trefnu adwaith imiwn.

“Dyna beth y mae HLA yn ei wneud, sy’n wych gan ei fod yn caniatáu ichi fyw a gweithio’n iawn, ond dydy e’n dda i ddim mewn senario trawsblannu oherwydd, os byddem ni’n rhoi organ i mewn ichi a dydy’ch celloedd imiwn ddim yn adnabod yr allwedd hwnnw, mi fyddech chi’n cael adwaith imiwn yn syth ac, yn y sefyllfaoedd mwyaf drastig, gallai hyn ddod yn ymwrthiant gor-acíwt.

“Rydyn ni’n defnyddio’r profion teipio HLA a sgrinio am wrthgyrff i lunio proffil claf. Yna, rydyn ni’n eu cofrestru nhw ag asiantaeth ganolog, sef asiantaeth Rhoi a Thrawsblannu Organau (ODT) Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG, sy’n cadw’r holl restrau o bobl sydd angen trawsblaniadau o’r holl wahanol organau.

“Felly, ar gyfer yr arennau, byddwn ni’n eu cofrestru nhw gan nodi eu math o HLA ac yna rhywbeth rydyn ni’n ei alw’n eu gwrthgyrff annerbyniol – pe bai aren sydd â’r HLA cyfatebol arni’n cael ei rhoi i’r claf, mae’n bur debyg y bydd yn ei gwrthod yn syth. Felly pan mae’r ODT yn cael cynnig aren i’w thrawsblannu, byddan nhw’n rhedeg rhestr i ddod o hyd i glaf addas.”

Ar hyn o bryd, mae Amy a’i thîm yn gweithio ar astudiaeth sy’n gobeithio lleihau gwrthgyrff claf i roi gwell gobaith o’i gyfateb ag organ y mae ei gorff yn fwy tebygol o’i dderbyn.

Mae astudiaeth ‘Gwella Cyfleoedd Trawsblannu i Gleifion sy’n Sensiteiddiedig’ (ITOPS) yn cael ei hariannu gan Ymchwil yr Arennau’r DU ac mae’n cael ei harwain gan Dr Siân Griffin, arweinydd arbenigedd arennol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac ymchwilydd sydd â chyswllt ag Uned Ymchwil Arennol Cymru.

“Does gan rai cleifion ddim gwrthgyrff o gwbl, ac mae gan rai cleifion lawer o wrthgyrff, felly’r rhai â llawer o wrthgyrff ydy’r rhai sy’n ei chael hi’n fwyaf anodd cael trawsblaniad,” meddai Amy.

“Dyna’r rhai rydyn ni’n eu targedu yn nhreial ITOPS, i geisio cwtogi ar eu gwrthgyrff, gan ddefnyddio therapi cyffuriau, â’r gobaith o’u galluogi nhw i gael trawsblaniad – hyd yn oed os ydyn ni’n gallu lleihau eu proffil gwrthgyrff rhyw fymryn, mae’n gallu gwneud gwahaniaeth anferthol i’r tebygrwydd y byddan nhw’n gallu cael trawsblaniad.

“Gallwch chi gael trawsblaniad oddi wrth roddwr sydd wedi marw ac a oedd yn fodlon rhoi ei organau, neu gallwch chi ei gael oddi wrth roddwr byw, ffrind neu berthynas sy’n fodlon rhoi aren ichi. Mae ITOPS yn gobeithio agor y ddau opsiwn i gleifion.”

Mae yna lawer o fynd a dod ymhlith y staff yn y labordy; yn hongian eu cotiau gwyn ar y bachau ac yn golchi eu dwylo’n drwyadl cyn gadael trwy’r drysau dwbl.

“Mae ITOPS wrthi’n recriwtio nawr,” ychwanegodd Amy. “Mae rhai cleifion yn y fraich reoli, felly dydyn nhw ddim yn derbyn unrhyw driniaeth, ac mae rhai yn y fraich ymyrryd, felly maen nhw’n derbyn triniaeth yr astudiaeth.

“Mae’r driniaeth yn para am 12 wythnos ac yna rydyn ni’n dechrau monitro’u gwrthgyrff i weld a ydyn nhw’n gostwng ac yna, os nad ydy eu proffil gwrthgyrff wedi gostwng, gallan nhw optio i gael ail rownd o driniaeth, gan obeithio y bydd hyn yn arwain at leihau’r gwrthgyrff.

“Ond y gobaith ydy y byddan nhw’n cael gostyngiad yn y bloc cyntaf o driniaeth ac yna mi fyddwn ni’n eu monitro dros flwyddyn, i weld a ydy eu gwrthgyrff yn dod yn ôl.

“Weithiau, gallwch chi gwtogi ar wrthgyrff rhywun ond dydy hyn ddim yn para. Er hynny, mae’n gallu bod yn ddefnyddiol gan ei fod dal yn rhoi cyfle iddyn nhw am gyfnod lle y gallen nhw gael trawsblaniad byw neu gael cynnig trawsblaniad organ rhoddwr sydd wedi marw. Ond rydyn ni’n gobeithio y bydd effeithiau’n hirhoedlog fel y bydd eu gwrthgyrff yn gostwng i lefel dros flwyddyn, a fydd yn golygu y bydd trawsblaniad yn opsiwn iddyn nhw.”

Mae’r Gwyddonwyr Clinigol yma yn WTAIL, fel Amy, yn dilyn hyfforddiant arbenigol am flynyddoedd, ac mae hwn yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i’w helpu nhw i wneud penderfyniadau ynglŷn â thrawsblannu. O ganlyniad, maen nhw’n barod i fod ar gael 24 awr y dydd i ymateb i achosion lle gallai organ gyfateb i’r claf.

“Os ydyn ni’n cael cynnig aren, oherwydd bod rhywun lleol wedi gwneud rhodd o’i organau, rydyn ni’n mynd ati i deipio’r HLA ac yn rhoi gwybod am y math hwnnw i ODT,” meddai Amy.

“Mae ODT wedyn yn rhedeg y rhestrau cenedlaethol ac os ydyn nhw’n cyfateb yr organ i un o’n cleifion lleol, rydyn ni’n dod i mewn ac yn gwneud rhywbeth o’r enw croes-gyfateb. Mae hyn fel gwiriad terfynol bod ein holl wybodaeth o’r sgrinio am wrthgyrff a’r teipio HLA yn gywir, a bod yr organ a’r claf yn gydnaws.

“Dyna’n union beth rydyn ni’n ei wneud ar alwad. Dyma’r prawf olaf i allu dweud ‘gallwch, gallwch chi fwrw ymlaen â thrawsblannu’r organ ac mi ddylai popeth fod yn iawn’.”

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru’n bwriadu cefnogi rhagor o astudiaethau fel ITOPS yn y dyfodol, wrth iddo gynyddu ei weithgarwch ymchwil.

Felly mae’n eithaf posibl mai nid dyma fydd yn tro olaf y byddwn ni’n dringo’r staer i’r llawr cyntaf, ac yn anelu am y lleoliad cudd hwn yng nghefn yr adeilad, i ddarganfod y peth mawr nesaf sy’n digwydd ym maes ymchwil arennol.