Welsh Government
@YmchwilCymru yn cyflwyno... Gill Windle: Yr ymchwilydd i dementia gwerth 11 miliwn o bunnoedd ‘a rhyw fymryn mwy’

@YmchwilCymru yn cyflwyno... Gill Windle: Yr ymchwilydd i dementia gwerth 11 miliwn o bunnoedd ‘a rhyw fymryn mwy’

7 Mawrth 2019

Mae’n bnawn dydd Gwener oer yng Nghaerdydd. Mae eira’n gorchuddio’r coed a’r parc tu allan, a’r olygfa o’r ffenestr yn edrych fel cerdyn cyfarch.

Rydw i’n gwneud paned o de i fi fy hun ac yn paratoi i ‘gyfarfod’ â Gill Windle. Rydw i’n rhoi ‘cyfarfod’ mewn dyfynodau gan fod Gill ar y funud hon yn eistedd yn ei swyddfa ym Mhrifysgol Bangor.

Rydyn ni’n trio cysylltu ar fideoalwad ond mae duwiau technoleg yn ein herbyn ni heddiw felly rydyn ni’n bodloni ar gael sgwrs dros y ffôn yn lle.

Athro yn y brifysgol ydy Gill, a chyfarwyddwr cyswllt un o’r canolfannau y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n eu hariannu, sef y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR).

Ond mae hynna fyd i ffwrdd o lle dechreuodd Gill.

“Fel mae’n digwydd, es i nôl i’r brifysgol fel myfyriwr hŷn,” meddai Gill. “Wnes i ddim cymryd y llwybr traddodiadol o ysgol, Lefel A a phrifysgol. Mi gadewais i’r ysgol yn 16 oed, gweithio ac yna wnes i gwrs mynediad i addysg uwch yng Ngholeg Menai. Roedd hynny ym 1996, a’r flwyddyn ganlynol mi ddechreuais i astudio gradd mewn seicoleg.

“Roedd hi’n eitha’ buan yn fy nghwrs gradd pan wnes i feddwl mod i’n wirioneddol hoffi’r ochr ymchwil o bethau. Roeddwn i wrth fy modd yn darllen ac yn ysgrifennu ac mae’n debyg mai dyna lle y dechreuodd popeth.”

Tra bo Gill yn astudio seicoleg roedd hi yng nghanol ymchwilwyr y mae’n hi’n eu disgrifio fel “rhai o’r rhai gorau yn y byd”.

“Roedd y teimlad hwnnw’n dylanwadu arnoch chi,” meddai hi. “Roedd hi’n braf meddwl eich bod chi’n dysgu oddi wrth bobl a oedd ar y rheng flaen o ran beth oedd yn cael ei wneud ar yr adeg benodol honno, yn enwedig ynghylch niwroseicoleg a materion yn ymwneud â’r ymennydd ac ymddygiad.”

Ym mlwyddyn olaf ei gradd, dechreuodd Gill feddwl ynglŷn â beth allai hi wneud nesaf. Anfonodd negeseuon e-bost at nifer o ddarlithwyr yn cynnig ei gwasanaeth fel cynorthwyydd ymchwil, naill ai am gyflog neu’n ddi-dâl.

“Ges i gwpl o atebion, un oddi wrth yr Athro Mark Williams, sy’n gwneud llawer o ymchwil yn ymwneud ag ymwybyddiaeth ofalgar, yn arbennig pobl ag iselder difrifol. Mi ddywedodd, ’mae gennon ni gwpl o wythnosau os wyt ti ffansi gwneud hynna?’

“Mi drodd y ddwy wythnos yna yn chwe mis yn gwneud swydd rhywun ar absenoldeb mamolaeth ac mi drodd honno’n swydd cynorthwyydd ymchwil am ddwy flynedd a hanner. Pan roeddwn i’n gwneud hynna mi wnes i fy ngradd Meistr ac yna mi ges i gyllid i wneud PhD, ac mi ddatblygodd y cyfan o hynna a dweud y gwir.”

Mae Gill yn cofio digwyddiad arwyddocaol yn gynnar yn ei gyrfa fel ymchwilydd.

“Roeddwn i’n gweithio gyda Vanessa Burholt yn y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Polisi Cymdeithasol yma ym Mangor, a’r peth cyntaf fyddai pobl yn ei ddweud wrtha’ i oedd, ‘os wyt ti isio cadw mewn gwaith yn gwneud ymchwil a dwyt ti ddim yn awyddus i ddarlithio, yna mae’n rhaid i ti gynhyrchu dy arian dy hun’.

“Gwnaeth hynna aros gyda fi. Mi ddysgais i’n gyflym iawn sut i ysgrifennu cynigion ymchwil!”

Ar ôl i Gill orffen ei PhD, derbyniodd rôl a oedd wedi’i hariannu ar y cyd gan y Rhwydwaith Dementia a Chlefydau Niwroddirywiol a’r Rhwydwaith Pobl Hŷn a Heneiddio.

“Gwnaeth y cyllid hwnnw fy nghynnal i i ysgrifennu cynigion ymchwil,” esboniodd Gill. “I ddweud y gwir, mi wnes i’n eitha’ da, yn arbennig gyda’r cynghorau ymchwil.

“Fyddai prifysgolion fyth yn gallu talu i rywun i roi’r amser i ysgrifennu cynigion, felly heb arian y gymrodoriaeth fyddwn i ddim wedi gallu gwneud yr hyn wnes i.”

Yn ddiweddar, mae Gill wedi bod ar ei chyfrifiannell ac mae yna gysgod o wên a balchder yn ei llais wrth iddi rannu rhai o’i symiau â mi.

“Mi wnes i ’chydig bach o adio a thros y pum mlynedd diwethaf mae fy nghynigion ymchwil i wedi cynhyrchu tua 11 miliwn o bunnoedd a rhyw fymryn mwy mewn grantiau. Wel, dydy hynna ddim yn ddrwg nac ydy! Ac, yn y bôn, roedd hynna oherwydd i mi gael f’ariannu i ysgrifennu cynigion ymchwil.”

Roedd astudiaethau ymchwil cyntaf Gill yn ymwneud â heneiddio ond nawr mae hi’n canolbwyntio ar dementia; newid a ddigwyddodd pan ddechreuodd hi weithio gyda’r Athro Bob Woods yn y Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia.

“I mi, mae un o’r problemau mwyaf yn ymwneud â gofal,” meddai Gill. “Yn draddodiadol, mae cymaint o arian wedi’i fuddsoddi mewn ceisio dod o hyd i ffyrdd o wella’r cyflwr ac i ddeall y pethau sy’n ei achosi, yr agweddau genetig, a llawer llai mewn gofal.

“A’r gwir amdani ydy bod y rhan fwyaf o bobl yn byw â dementia felly mae angen inni wybod beth ydy’r ffordd orau i’w cefnogi nhw, fel eu bod nhw’n gallu byw cystal â phosibl.”

Wrth inni sgwrsio, mae Gill yn dweud wrtha’ i am ei blynyddoedd ieuangach fel nofiwr cystadleuol, y ceffyl roedd hi’n berchen arno a’i chariad at yr awyr agored. Ymarfer corff ydy ateb Gill i fywyd gwaith prysur.

“Pan ‘dych chi’n eistedd o flaen cyfrifiadur trwy’r dydd, mae’n braf cael rhywbeth sy’n eich helpu i’w anghofio am ryw ’chydig.

“Dwi dal i fwynhau nofio ond rŵan mod i’n hŷn dydw i ddim yn hoffi cystadlu dim mwy – dwi’n meddwl mod i’n cael digon o’r ysbryd cystadleuol yn fy ngwaith fel nad ydw i angen mwy ohono ar y penwythnos hefyd!”

Dwi’n awyddus i gael gwybod beth mae Gill yn meddwl ydy ei chyflawniad mwyaf hyd yma yn ei gyrfa.

“Fy PhD, gan mai fy ngwaith i oedd y cyfan!” chwarddodd Gill. “Ond hefyd fy astudiaeth ymchwil ‘Dementia a’r Dychymyg’.

“Prosiect celf a gwyddoniaeth oedd yr un yna. Roedd o’n anghyffredin iawn o ran y cymysgedd rhyngddisgyblaethol, ac mi wnaethon ni bethau doedd astudiaethau eraill heb eu gwneud cyn hynny.

“Mi aethon ni i wyliau, fel Gŵyl y Dyn Gwyrdd, a defnyddiwyd celf fel modd o ddechrau sgwrs – a chael pobl i siarad am dementia.

“Dwi’n meddwl bod hynny wedi bod yn waddoliad eitha’ arbennig a dweud y gwir. Rydyn ni dal i deimlo effaith y prosiect hwnnw rŵan.”

A beth am y dyfodol? Mae Gill eisiau i’w hymchwil fynd i’r afael â materion o deimlo allan ohoni a’r pryderon sydd gan bobl sy’n byw â dementia.

“Mi hoffwn i feddwl y gallai pobl sy’n byw â dementia deimlo’u bod nhw’n gallu camu allan drwy’r drws a chymryd rhan mewn cymdeithas. Mae’n debyg ei fod mor syml â hynny a dweud y gwir, achos ar y funud dwi’m yn meddwl eu bod nhw.”

Mae Gill ar fin dechrau gweithio ar brosiect newydd yn edrych ar rai o’r ffurfiau mwyaf prin ar dementia.

“Rydyn ni ond newydd ddod i arfer siarad am dementia, a hynny heb drafod pa fath o dementia. Dwi’n meddwl o bosibl mai dyna’r camau nesaf, yn arbennig pan fyddwn ni’n siarad am driniaethau wedi’u teilwra. Mae’n rhaid inni feddwl am y gwahanol brofiadau y mae pobl yn eu cael yn byw â gwahanol fathau o dementia, gan eu bod nhw’n bur wahanol.

“Mi fyddwn i’n dychmygu, efallai mewn pum mlynedd, y bydd yr eirfa rydyn ni’n ei defnyddio wrth i ni drafod dementia yn wahanol.”

Dydy’r eira heb gyrraedd Gill, sy’n newyddion da gan ei bod hi’n bwriadu mynd i gerdded yn y bryniau y penwythnos hwn gyda’i gŵr.

Bydd ei meddyliau ymhell oddi wrth ei gwaith yn yr awyr iach ond mae Gill yn dweud wrtha’ i y bydd hi’n rhoi ei sgiliau ysgrifennu cynigion ar brawf eto’n fuan.

“Dwi wir eisiau gallu datblygu’r tîm sydd gennon ni yma ym Mangor gan mod i o’r farn mai un o’r problemau sy’n wynebu ymchwil dementia ydy nad oes digon o bobl yn dod trwodd i wneud y gwaith.

“Un o’r pethau mawr dwi am ganolbwyntio arno dros yr ychydig flynyddoedd nesaf ydy datblygu capasiti, felly dwi’n mynd i edrych am arian sy’n gallu cefnogi’r math hwnnw o weithgaredd.”

Am y tro, bydd yn rhaid inni aros i weld pwy fydd yn dilyn y camre hwnnw o 11miliwn o bunnoedd a rhyw fymryn mwy. Mae’n benwythnos, a hynny’n swyddogol, ac mae Gill yn diffodd ei chyfrifiadur.