Welsh Government
Datblygu Arfer Cyfoethog ei Dystiolaeth

Datblygu Arfer Cyfoethog ei Dystiolaeth

Mae poblogrwydd rhaglen y BBC, The Great British Bake Off, yn brawf bod pawb yn mwynhau darn o deisen, yn enwedig pan mae wedi’i choginio i’r dim.

Ond mae pobi teisen dda yn fwy cymhleth nag y byddech chi’n meddwl.

Mae’n galw am ddewis cynhwysion yn ofalus, ac yna mae’n rhaid eu cyfuno yn y symiau cywir, yn y drefn gywir ac yn y ffordd gywir. Mae’n galw hefyd am roi sylw gofalus i’r broses goginio, i osgoi cael teisen sydd naill ai wedi’i llosgi neu sy’n soeglyd. Mae rywbeth yn debyg pan ddaw’n fater o wneud gwasanaethau cyhoeddus da, fel iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Datblygwyd dull Datblygu Arfer Cyfoethog ei Dystiolaeth (DEEP) o weithredu i wella iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, a rhoddwyd ef ar brawf mewn pum lle yng Nghymru ac un lle yn yr Alban, mewn partneriaeth â Sefydliad Joseph Rowntree yn ystod 2014/15. Ym mhobman, daeth grŵp o bobl hŷn, gofalwyr, staff rheng flaen a rheolwyr sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd i archwilio tystiolaeth amrywiol, gan gynnwys ymchwil, i weld a allen nhw ddefnyddio hyn i wella lles pobl hŷn, gofalwyr a staff rheng flaen. Dewiswyd archwilio tystiolaeth ynglŷn â’r pynciau a ganlyn:

  • Cefnogi pobl sy’n byw â dementia i aros yn eu cartrefi eu hunain, a mentro mewn modd mwy positif gan ystyried ‘beth sydd o’r pwys mwyaf’ i bobl â dementia, yn hytrach na beth y mae pawb yn meddwl sydd orau iddyn nhw.
  • Datblygu gweithgareddau ystyrlon ar gyfer pobl hŷn mewn cartrefi gofal a chanolfannau dydd, gan roi synnwyr o berthyn, o bwrpas ac o gyflawni iddyn nhw.
  • Gwella’r berthynas rhwng pobl hŷn, gofalwyr a staff rheng flaen mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol i wneud gwasanaethau’n fwy cyfeillgar a ‘normal’.
  • Cefnogi perthnasoedd gofalgar rhyngddibynnol, trwy ddarparu seibiannau byr mewn ffyrdd nad ydyn nhw’n gwneud i ofalwyr deimlo’n euog neu’n gofidio’r sawl sy’n derbyn y gofal.
  • Defnyddio gwaith papur yn well, fel ei fod yn ddefnyddiol yn hytrach na’n feichus.
  • Gwneud gwasanaethau yn y gymuned ‘yn rhan o’r gymuned leol’, yn hytrach nag ‘ar wahân i’r gymuned leol’, trwy gael digwyddiadau cymdeithasol a rhannu syniadau ynglŷn â sut i gydweithio.

Daeth y prosiect i’r casgliad bod yn rhaid iddyn nhw roi sylw gofalus i bum peth er mwyn gwneud i’r pethau hyn ddigwydd; rhywbeth yn debyg i bobi teisen dda. Sef:

Peth 1:
Gwerthfawrogi a grymuso pawb sydd a wnelo â’r prosiect – y sieffiaid hapus a chreadigol) – roedd yn rhaid i uwch reolwyr gefnogi cyfranogwyr i fod yn greadigol a gallu arbrofi â syniadau. Roedd angen datblygu perthnasoedd ymddiriedus rhwng pawb dan sylw, fel y gallai pobl fod yn onest a theimlo’n ddiogel. Roedd angen i bobl deimlo’u bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi a bod eu llwyddiannau (hyd yn oed y pethau bach) yn cael eu dathlu.

Peth 2:
Gwerthfawrogi a defnyddio tystiolaeth amrywiol (y cynhwysion) – roedd hi’n bwysig ystyried ‘beth sydd o bwys’ i bawb dan sylw, a oedd yn golygu bod angen ystyried pedwar prif fath o dystiolaeth – ymchwil, barn a phrofiadau pobl hŷn a gofalwyr, arbenigedd staff rheng flaen a materion cyfundrefnol, gan gynnwys polisi.

Peth 3: Paratoi’r dystiolaeth, fel ei bod hi’n ddiddorol ac yn berthnasol (paratoi’r cynhwysion) – roedd cyfranogwyr yn gallu deall a defnyddio’r dystiolaeth pan roedd yn cael ei chyflwyno ar ffurf crynodebau byr, straeon, lluniau, barddoniaeth a hyd yn oed cân. Gellid hefyd roi crynodeb o rywfaint o’r dystiolaeth mewn datganiadau herllyd, a fyddai’n peri i bobl feddwl.

Peth 4: Hwyluso archwilio a defnyddio tystiolaeth (mesur yn ofalus, cymysgu a phobi) – efallai mai dyma oedd y peth pwysicaf a mwyaf cymhleth. Roedd dulliau da eu strwythur o fynd ati i helpu pobl i feddwl a siarad â’i gilydd yn eu galluogi i fod yn well gwrandawyr a bod yn fwy agored i ddysgu. O ganlyniad, roedden nhw’n cynnig syniadau a phenderfyniadau ar y cyd ac roedd pawb yn teimlo bod croeso i’w cyfraniadau. Cyflwynwyd gwahanol ddarnau o dystiolaeth i drafodaethau wrth iddyn nhw ddod yn berthnasol dros amser.  

Peth 5:
Cydnabod a mynd i’r afael ag amgylchiadau a rhwystrau cyfundrefnol cenedlaethol a lleol (gwneud yn siŵr bod y cyfarpar a ddefnyddir, gan gynnwys y ffwrn a hambyrddau pobi’n ddigon da i’w defnyddio) – roedd hi’n bwysig ystyried pethau a allai rwystro llwyddiant, a mynd i’r afael â’r rhain. Roedd y rhain yn cynnwys rheolau a rheoliadau cenedlaethol a lleol da eu bwriad nad oedden nhw bob amser yn gweddu’n dda i benderfyniadau cyd-destunol a’r hyn roedd cyfranogwyr o’r farn oedd yn bethau pwysig i hybu lles.

Roedd y prosiect yn llwyddiant ysgubol a, thros y tair blynedd nesaf, y nod yw datblygu dull DEEP o weithredu ymhellach, a’i fireinio.

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am ddull DEEP o weithredu, gallwch chi gysylltu â Nick Andrews ym Mhrifysgol Abertawe – N.D.Andrews@swansea.ac.uk (01792 606380)

Mae mwy o fanylion am brosiect Datblygu Arfer Cyfoethog ei Dystiolaeth (DEEP) i’w gweld yn:

www.jrf.org.uk/publications/developing-evidence-enriched-practice-health-and-social-care-older-people

 

Fe ariannodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru y rhan y bu Nick Andrews yn ei chwarae fel cydlynydd prosiect, a hefyd cyfraniad Martin O’Neill, Prifysgol Caerdydd.

 

 

Straeon eraill ymchwil