Darllen am y prosiectau sy’n darparu sail ar gyfer cynnwys, cyfranogi ac ymgysylltu â’r cyhoedd mewn ymchwil
Mai 2015
Er mwyn darparu sail ar gyfer cynllunio a datblygu menter Doeth Am Iechyd Cymru, fe gomisiynwyd Beaufort i wneud ymchwil i ddatblygu dealltwriaeth o ymwybyddiaeth, agweddau ac amgyffrediad y cyhoedd o ran ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ar hyn o bryd.
Darllenwch Public understanding of health and social care research: Research report executive summary
Hydref 2014
Wedi’i ariannu gan Gofal Canser Tenovus, rhedwyd cyfres o grwpiau ffocws gyda chleifion a staff yng Nghanolfan Canser Felindre i edrych ar sut gallwn ni wella’r ffordd y mae cleifion yn dysgu am ymchwil am y tro cyntaf.
Darllenwch Adroddiad Llawn y Prosiect Dywedwch Fwy Wrthyf a Chrynodeb Dywedwch Fwy Wrthyf.
Hydref 2011
Adolygiad o’r ddarpariaeth cynnwys cleifion a’r cyhoedd o fewn y seilwaith ymchwil yng Nghymru, gan nodi prosesau i gefnogi ymchwil berthnasol o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar bobl.
Darllenwch Ymgynghoriad – Adroddiad Cryno.